Gweithredwch:
Dwedwch wrth eich ASau i gefnogi CGM cynhwysol yng Nghymru
Mae grwpiau crefyddol yn lobïo Aelodau’r Senedd i wrthwynebu newidiadau hanfodol i wneud CGM yn gynhwysol o’r di-grefydd – felly mae’n rhaid i ninnau wneud hynny hefyd. Ysgrifennwch, os gwelwch yn dda, at eich ASau heddiw yn pwysleisio’ch cefnogaeth i gynnwys dyneiddiaeth yng nghwricwlwm ysgolion.
Ar 6 Gorffennaf 2020, gosododd Llywodraeth Cymru y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) o flaen y Senedd. Ymhlith pethau eraill, mae’r Mesur yn cynnig gwneud addysg grefyddol – sydd i’w ailenwi yn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) – yn hollol gynhwysol o ddyneiddiaeth a gwneud yn eglur y gall cynrychiolwyr Dyneiddiol fod yn aelodau o gyrff sy’n datblygu a goruchwylio’r maes llafur ar y pwnc. Bydd hefyd yn rhoi’r hawl i rieni plant sy’n mynychu ysgolion ffydd i fynnu CGM gwrthrychol i gyd-fynd gyda’r maes llafur sy’n cael ei addysgu mewn ysgolion eraill yn hytrach nag addysg grefyddol bleidiol wedi ei seilio ar ffydd.
Os bydd yn dod i rym, bydd y Mesur hwn yn cael dylanwad cadarnhaol pwysig ar y modd y mae addysg grefyddol yn cael ei addysgu gan wneud Cymru yn arweinydd byd-eang yn nhermau addysg gynhwysol. Fodd bynnag, bu grwpiau crefyddol sy’n meddu ar fuddiant breintiedig mewn cynnal y statws quo yn lobïo’n ddygn yn erbyn y diwygiadau, gyda phennaeth pob ysgol Babyddol yn ysgrifennu at y Llywodraeth i’w gwrthwynebu, hyd yn oed yn dadlau bod cynnwys dyneiddiaeth yn CGM yn ‘bychanu’ y pwnc. Dyma pam rydym angen eich cymorth brys. A wnewch chi ysgrifennu at eich Aelodau Senedd i ddweud wrthynt eich bod yn cefnogi’r Mesur a gofyn iddynt wneud cymaint ag y gallant i sicrhau bydd y newidiadau yn dod yn rhan o gyfraith gwlad?
Rydym wedi creu cyfleuster er mwyn i chi allu e-bostio’ch ASau. Cynhwysa hyn lythyr enghreifftiol (er ein bod yn eich cymell i’w addasu), a thrwy gynnwys eich cyfeiriad bydd y system yn adnabod eich ASau ar eich cyfer.
Awgrymiadau ar addasu’r llythyr
I’ch cynorthwyo i ysgrifennu’ch llythyr/e-bost, rydym yn darparu testun awgrymedig (gweler isod). Anogwn yn daer ichi olygu hwn i’w wneud yn fwy personol – rydym yn gwybod fod Aelodau’r Senedd yn fwy tebygol o gymryd sylw o e-bostiau a chwestiynau personoledig, ac rydym wedi darparu rhai enghreifftiau isod o ffyrdd y gallech wneud hyn.
Os ydych yn rhiant neu ofalwr… dwedwch pam eich bod yn credu ei fod yn llawn mor bwysig i’ch plant ddysgu am grefydd a dyneiddiaeth yn gydraddol. Os yw’ch unig ysgol leol yn ysgol ffydd, soniwch am y problemau mae hyn wedi achosi i’ch teulu (e.e. trwy orfod tynnu’ch plant o wersi Addysg Grefyddol, neu eu gadael i dderbyn addysg seiliedig ar ffydd) a pham y bydd cael y dewis i ofyn am wersi CGM cynhwysol yn welliant ar yr hawl i ymneilltuo.
Os ydych yn athro/athrawes… cyfeiriwch at eich profiadau cadarnhaol o Addysg Grefyddol sy’n cynnwys dyneiddiaeth. Neu, os yw’ch ysgol yn addysgu o safbwynt crefyddol penodedig neu ddim yn ystyried byd-olygon di-grefydd, esboniwch y problemau rydych yn credu fod hyn yn achosi (i’r disgyblion ac i chi fel athro/athrawes). Os oes gennych brofiad o ddisgyblion yn cael eu tynnu allan o wersi Addysg Grefyddol, trafodwch pam nad ydych yn credu fod hyn cystal â darparu’r hawl i fynnu dewis cynhwysol gwahanol er mwyn amddiffyn hawliau teuluoedd nad sydd am dderbyn gwersi seiliedig ar ffydd.
Os ydych yn ddisgybl… cyfeiriwch at eich profiadau cadarnhaol o ddysgu am ddyneiddiaeth yng ngwersi Addysg Grefyddol. Os nad ydych wedi derbyn addysg am ddyneiddiaeth, esboniwch pam eich bod yn meddwl fod hyn yn broblem (er enghraifft, trwy bwysleisio sut mae hyn yn eich gwneud i deimlo fel person di-grefydd). Os ydych wedi mynychu ysgol ffydd, trafodwch eich profiadau o gael eich tynnu o wersi Addysg Grefyddol neu gael eich gorfodi i aros mewn gwersi Addysg Grefyddol sy’n ymdrechu i orfodi safbwynt crefyddol. Os ydych yn ddisgybl hŷn sy’n mynychu ysgol ffydd, dwedwch pam hoffech gael yr hawl hefyd i dderbyn gwersi cynhwysol mewn CGM.
Llythyr enghreifftiol
Annwyl (ENW AS),
Ysgrifennaf fel eich etholwr i ddatgan fy nghefnogaeth i newidiadau arfaethedig yn y gyfraith ar addysg grefyddol yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a osodwyd gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf.
Mae’r prif newidiadau i addysg grefyddol – sydd i’w ailenwi yn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) – yn cynnwys eglurhau, yn unol â chyfraith hawliau dynol, ei bod yn orfodol i ddyneiddiaeth gael ei addysgu mewn modd cyfartal â chrefyddau, ac y gall dyneiddwyr fod yn aelodau o gyrff sy’n datblygu a goruchwylio’r maes llafur.
Bwriedir hefyd , er mwyn amddiffyn yr hawl i ryddid crefydd neu gredo yn dilyn dileu’r hawl i neilltuo o’r pwnc, caniatáu rhieni disgyblion sy’n mynychu ysgolion gwirfoddol ffydd i fynnu gwersi CGM gwrthrychol yn unol â’r maes llafur wedi ei gytuno’n lleol fel dewis arall ystyrlon yn hytrach nag AddGref wedi ei seilio ar ffydd.
Rwy’n argyhoeddedig, os bydd y Bil hwn yn cael ei basio, y caiff ddylanwad positif ar y modd y mae addysg grefyddol yn cael ei addysgu a gwneud Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes addysg gynhwysol.
Fodd bynnag, mae tri maes lle gellid gwella’r Bil:
- Dylid rhoi rhyddid i ddisgyblion hŷn (Blwyddyn 10 ac uwch) sy’n mynychu ysgolion ffydd i ddewis gwersi CGM cynhwysol yn hytrach na chyfarwyddyd crefyddol;
- Dylai Estyn arolygu maes llafur CGM cynhwysol cytunedig yn hytrach na hynny cael ei wneud gan gyrff enwadol fel sy’n digwydd ar hyn o bryd
- Dylid gorfodi ysgolion ffydd i gyflogi nifer addas o athrawon sydd wedi eu hyfforddi i addysgu maes llafur CGM cytunedig, a dylid diddymu’r cyfreithiau sy’n caniatáu’r ysgolion hyn i apwyntio, cyflogi, dyrchafu neu ddiswyddo’u holl athrawon ar sail ffydd.
Demograffeg yn newid yng Nghymru
Yn ôl y British Social Attitudes Survey diweddaraf, mae bron 60% o oedolion Cymreig yn ddi-grefydd ac mae’r rhif hwn hyd yn oed yn fwy ymhlith pobl ifanc. I’r gwersi CGM newydd hyn fod yn berthnasol i blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw, mae’n hanfodol eu bod yn trin persbectifau di-grefydd ochr-yn-ochr gyda’r prif grefyddau. Gan mai hwn yw’r unig bersbectif di-grefydd sydd wedi datblygu’n gyflawn ac sy’n cael ei gefnogi gan ystod eang o lenyddiaeth sy’n addas i’w astudio mewn ysgolion, golyga hyn ei bod yn rhaid i ysgolion addysgu dyneiddiaeth.
Cynnwys cynrychiolwyr dyneiddiol ar CYSAGau a
Ymhellach, er mwyn sicrhau bod addysgu am ddyneiddiaeth yn adlewyrchu’n gywir gredoau ac ymarferion pobl di-grefydd yn byw yng Nghymru, mae’n bwysig fod y cyrff sy’n datblygu a goruchwylio’r maes llafur – sy’n cael eu hadnabod fel ……. a CYSAGau – yn cynnwys cynrychiolwyr dyneiddiol ar sail gyfartal gyda rheiny o gefndir crefyddol. Dydy hyn ddim yn golygu newid sylweddol yn y gyfraith, ond yn dod ag ef yn fwy penodol unol gydag anghenion presennol sy’n deillio o achosion cyfreithiol dan Ddeddf Cyfiawnder Dynol 1998, sy’n penodi pa argyhoeddiadau crefyddol a di-grefydd sy’n rhaid eu trin yn gyfartal. Yn anffodus, er gwaetha’r ffaith bod dyneiddwyr yn meddu’n barod ar yr hawl i gymryd rhan mewn Cynghorau Ymgynghorol ar Addysg Grefyddol (CYSAGau) a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig (CMLlCau), dewis llawer o’r fath grwpiau yw eu gwahardd ar sail geiriad presennol y ddeddfwriaeth sylfaenol (sydd ond yn cyfeirio at ‘crefyddau’ yn hytrach na ‘crefyddau neu gredoau’), felly mae’r newid hwn yn hanfodol.
Cyhuddiadau di-sail o ‘wanhau’
Ceisia rhai grwpiau crefyddol, yn arbennig y Gwasanaeth Addysg Pabyddol, ddadlau y bydd cynnwys dyneiddiaeth yng nghwricwlwm CGM yn ‘bychanu’ neu ‘deneuo’ y pwnc. Mae hyn nid yn unig yn sarhau’r rheiny, fel finnau, sy’n arddel credoau dyneiddiol, ond yn methu cydnabod effaith hanesyddol a damcaniaethol meddylwyr di-grefydd ar Gymru a’r byd. Bydd gwahardd y rhain o bwnc sy’n trafod rhai o’r cwestiynau mwyaf a phwysicaf y bydd plant yn eu hastudio yn yr ysgol yn hollol amhosibl i’w gyfiawnhau.
O dderbyn agwedd y grwpiau hyn i CGM cynhwysol, dylid newid y Bil i sicrhau fod darpariaeth ddewisol yn ôl y maes llafur cytunedig yn cael ei harolygu gan ESTYN yn hytrach na’r cyrff enwadol sydd yn gyfrifol ar hyn o bryd am arolygu addysg grefyddol seiliedig ar ffydd. Bydd yn angenrheidiol hefyd i sicrhau bod pob ysgol yn meddu ar athrawon sydd yn ddigon medrus i addysgu’r fersiwn mwy gwrthrychol hwn o’r pwnc. Am y rheswm hwn, dylai fod yn gyfreithiol ofynnol ar ysgolion ffydd i gyflogi nifer addas o athrawon ar gyfer hyn ac, er mwyn hyrwyddo hynny, dylid diddymu’r gallu cyfreithiol sy’n caniatáu ysgolion ffydd i ddewis, cyflogi, dyrchafu neu ddiswyddo’u hathrawon i gyd ar sail ffydd.
Hawl i fynnu CGM gwrthrychol, yn cynnwys disgyblion hŷn
Rwyf hefyd yn cefnogi’r cynnig i roi’r hawl i rieni plant sy’n mynychu ysgolion gwirfoddol a reolir â nodweddion crefyddol i fynnu maes llafur CGM cytunedig, fel sy’n cael ei addysgu mewn ysgolion eraill, yn hytrach nag addysg grefyddol enwadol. Am amryw resymau, dydy llawer o ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion ffydd ddim yn dilyn eu crefydd. Dylent gael yr hawl i fynnu dewis arall nad sydd yn ceisio’u recriwtio i mewn i unrhyw un crefydd neu gredo, ond sy’n trafod y safleoedd hyn yn gyfartal. Ni ddylid caniatáu’r ysgol i wrthod y fath gais am ei bod hi’n angenrheidiol gwarchod hawliau dynol y disgyblion i dderbyn y math o addysg y maent yn ei ddymuno. Bwriad y gwersi y maent am eu hosgoi yw hyrwyddo un persbectif arbennig ar draul pob un arall, rhywbeth fyddai, petai’n orfodol, yn egwyddori a hynny’n ymyriad â’r rhyddid i feddwl a chydwybod sydd wedi ei ymgorffori yng Nghonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol a’r Ddeddf Hawliau Dynol.
Eto, serch hynny, er bod y cynigiad hwn tipyn yn well na’r sefyllfa bresennol mewn ysgolion ffydd, rwyf yn parhau i ofidio nad yw’n llwyddo i warchod hawliau disgyblion hŷn yn ddigonol. Dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae plant a phobl ifanc hefyd yn meddu ar yr hawl i ryddid crefydd neu gredo. Mae’r hawl hwn yn meddu ar rym yng nghyfraith y DU trwy’r achos a adnabyddir fel Gillick competence. Fodd bynnag, bydd yr hawl i fynnu CGM cynhwysol mewn yn ysgolion ffydd ym mherchnogaeth y rhieni hyd at oedran chweched dosbarth. Yn fy ngolwg innau, mae hwn yn rhy hwyr ac fe ddylai disgyblion o Flwyddyn 10 ymlaen feddu ar yr hawl i ddewis mynychu gwersi cynhwysol.
Gyda hyn oll mewn golwg, anogaf chi i wneud cymaint ag y medrwch i sicrhau y bydd y newidiadau i addysg grefyddol a bwysleisiwyd yma yn dod i rym cyfreithiol, gan wneud gosodiad ar fy rhan i’r Senedd yn cefnogi’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn hyn o beth.
Yn gywir
[ENW]